R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
1. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymagwedd Llywodraeth Cymru at ffracio? OAQ(4)0018(NRF)
2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â manteisio i’r eithaf ar botensial ynni Cymru? OAQ(4)0023(NRF)
3. David Rees (Aberafan): Pa gynnydd sydd wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru o ran mynd i’r afael â thlodi tanwydd? OAQ(4)0027(NRF)
4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw blaenoriaeth y Gweinidog o ran hyrwyddo ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(4)0028(NRF)W
5. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cynnyrch o Gymru? OAQ(4)0032(NRF)
6. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerir i gefnogi’r diwydiant cynhyrchu bwyd yng Nghymru? OAQ(4)0031(NRF)W
7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi manylion am sut y mae’n bwriadu targedu cam 2 prosiect arbed i fynd i’r afael ag anghenion pobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd? OAQ(4)0022(NRF)
8. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol cynllun amaeth-amgylcheddol Glastir ? OAQ(4)0029(NRF)
9. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i bŵer trydan dŵr yng Nghymru? OAQ(4)0026(NRF)
10. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag effaith rhywogaethau goresgynnol? OAQ(4)0025(NRF)
11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw fewnbwn i gynigion ar gyfer hollti hydrolig ym Merthyr Mawr? OAQ(4)0021(NRF)
12. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau y mae wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ar gostau ynni yng Nghymru? OAQ(4)0024(NRF)
13. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau o ran hyrwyddo bwyd a diod o Gymru? OAQ(4)0030(NRF)
14. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith Llywodraeth Cymru i atal llifogydd? OAQ(4)0033(NRF)W
15. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo ansawdd dŵr ymdrochi ar draethau Cymru? OAQ(4)0019(NRF)
Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio
1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu meini prawf clir o ran yr hyn sy’n cyfateb i ‘amgylchiadau eithriadol’ ar gyfer clustogfeydd, fel y nodir yn MTAN2? OAQ(4)0265(HR)
2. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella’r trefniadau ar gyfer rhentu cartrefi yng Nghymru? OAQ(4)0268(HR)
3. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymgynghoriadau â Llywodraeth y DU ar Ran 5 o’r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â thai yng Nghymru? OAQ(4)0269(HR)
4. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladu tai fforddiadwy yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)0262(HR)
5. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel ôl-ddyledion rhent awdurdodau lleol yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)0260(HR)
6. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adolygiad Llywodraeth Cymru o Ran L o’r Rheoliadau Adeiladu? OAQ(4)0272(HR)
7. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Ardal Adfywio Aberystwyth? OAQ(4)0267(HR)W
8. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiwygio TAN 20? OAQ(4)0271(HR)W
9. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Beth yw amserlen y Gweinidog o ran cyflwyno deddfwriaeth cynllunio newydd? OAQ(4)0274(HR)W
10. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer cynyddu’r cyflenwad o dai mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0273(HR)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhwystrau i ddarparu tai fforddiadwy? OAQ(4)0259(HR)
12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio yng Ngorllewin Clwyd? OAQ(4)0264(HR)
13. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0270(HR)W
14. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo arfer da gan landlordiaid yn y sector rhentu preifat? OAQ(4)0263(HR)
15. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran adfywio’r stryd fawr yng Nghymru? OAQ(4)0266(HR)